A picture containing drawing, plate  Description automatically generated

Senedd Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mehefin 2020

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Pleidleisio o Bell


Diben

1.        Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.        Mae'r adroddiad yn argymell newidiadau i Reol Sefydlog 34. Mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd yn Atodiad A.

Y cefndir

3.        Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar ôl ystyried yn gyntaf, effaith bosibl yr achosion o Covid-19 ar fusnes y Senedd ddiwedd mis Mawrth 2020, i gyflwyno nifer o weithdrefnau brys newydd o dan Reol Sefydlog 34. Ymhlith y darpariaethau hyn roedd Rheol Sefydlog newydd 34.11 sy'n darparu ar gyfer pleidleisio wedi'i bwysoli yn y Cyfarfod Llawn lle mae'r Llywydd yn penderfynu bod ei angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae pob pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ers 1 Ebrill wedi'i chynnal gan ddefnyddio pleidleisio wedi'i bwysoli, yn absenoldeb unrhyw gyfleuster i'r Aelodau bleidleisio'n unigol o leoliadau o bell.

4.        Mae'r Pwyllgor Busnes nawr yn edrych i gyflwyno system bleidleisio electronig o leoliadau o bell yn y dyfodol agos, y gellid ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd cwbl rithwir a hybrid.

5.        Gellir gweld y newidiadau sy'n ofynnol i'r Rheolau Sefydlog i gyflwyno system o'r fath yn Atodiad A. Mae'r newidiadau yn hwyluso cyflwyno system o'r fath trwy drechu'r gofyniad yn Rheol Sefydlog 12.41 i Aelodau bleidleisio 'yn bersonol'. Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn rhoi disgresiwn i'r Llywydd benderfynu, mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Busnes, pryd y dylid defnyddio pleidleisio o bell am resymau iechyd cyhoeddus.

Camau i’w cymryd

 

6.     Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 15 Mehefin 2020, a gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad A.

 

 


34.   RHEOL SEFYDLOG 34 - Gweithdrefnau Brys

Pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn

34.14A Pan fo'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, yn penderfynu ei fod yn ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, gellir gwneud trefniadau i'r Aelodau bleidleisio o unrhyw leoliad trwy ddulliau electronig.

34.14B Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H, rhaid i'r Aelodau fwrw eu pleidlais yn unigol (ond nid yw'n ofynnol iddynt bleidleisio).

34.14C Mae Rheolau Sefydlog 34.14A a 34.14B yn berthnasol i'r holl fusnes yn y Cyfarfod Llawn.

31.14D Pan gynhelir pleidleisiau yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A, nid yw Rheol Sefydlog 12.44 yn gymwys, ond cyn cymryd unrhyw bleidlais, rhaid i'r Llywydd atal y trafodion dros dro am o leiaf bum munud. Os yw pleidleisiau i gael eu cymryd yn syth ar ôl ei gilydd, dim ond unwaith y mae angen atal y trafodion dros dro.

Pleidleisio mewn Pwyllgorau

34.14E Pan fo Cadeirydd pwyllgor yn penderfynu ei fod yn ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, gellir gwneud trefniadau i gynnal pleidlais mewn pwyllgor drwy ddull electronig, ac i'r Aelodau bleidleisio o unrhyw leoliad.

34.14F Mae Rheol Sefydlog 34.14D yn gymwys i'r holl fusnes mewn pwyllgor.